Plant o dan 7 oed
£4
Ymunwch â’r awdur a bardd lleol adnabyddus Anni Llŷn am weithdy rhyngweithiol a fydd yn helpu i ddod â streon arswydus, iasol neu dirgel yn fyw.
Mae Anni Llŷn yn awdur a bardd lleol adnabyddus sydd wedi neilltuo ei gyrfa i ysbrydoli meddyliau ifanc. Ac hithau’n nodedig am ei hegni heintus a’i hagwedd chwaraeus tuag at adrodd straeon, mae Anni yn gwneud ysgrifennu yn hygyrch, yn fywiog, ac—yn bwysicaf oll—yn llawn hwyl.
Mi fydd Anni yn tywys y plant drwy’r broses greadigol drwy gyfrwng y Gymraeg gan ddefnyddio cymysgedd gwych o dasgau gan gynnwys, tasgau cynhesu creadigol i danio syniadau mawr, gweithgareddau llafar yn siarad, rhannu ar lafar datblygu cymeriadaua chydweithio i weu straeon grŵp arswydus.
Yn berffaith ar gyfer magu hyder, rhyddhau’r dychymyg, a dathlu tymor y cynhaeaf gydag ychydig o gyffro mis Hydref. Mae llefydd yn gyfyngedig, felly archebwch le i adael i ddychymyg eich plentyn redeg yn wyllt!
Lleoliad: Plas Glyn-y-Weddw
Plas Glyn-y-Weddw
Pen Y Parc, Glynyweddw Estate, Llanbedrog, Pwllheli LL53 7TT, UK