Mae Noson Calan Gaeaf yn dod i Garchar Rhuthun!
Camwch i mewn i waliau hanesyddol Carchar Rhuthun dros yr hanner tymor ar gyfer antur arswydus heb ei debyg.
Archwiliwch y Carchar gan ddilyn llwybrau ofnus dan olau tortsh, a byddwch yn greadigol gyda chrefftau dychrynllyd o ddifyr, gan ddod o hyd i sypreisys syfrdanol wrth i chi ymlwybro drwy’r atyniad hanesyddol rhyfeddol hwn.
Ac os ydych chi awydd archwilio wedi iddi nosi, mae ein nosweithiau poblogaidd Liw Nos yn dychwelyd o ddydd Iau, 29 Hydref! 🌙
Yn bennaf oll, nid oes pethau i godi ofn nac actorion – mae hwn yn brofiad hunan-dywys sy’n addas i’r teulu cyfan, felly gallwch archwilio fel y mynnwch.
🕯️ Dewch â thortsh – bydd y goleuadau ar yr islawr yn is na’r arfer er mwyn creu atmosffer ofnus, a bydd yn ddefnyddiol ar gyfer y trywydd teulu hefyd!
Lleoliad: Ruthin Gaol Museum
Ruthin Gaol Museum
46 Clwyd St, Ruthin LL15 1HP, UK