{"id":9437,"date":"2026-10-18T13:12:18","date_gmt":"2026-10-18T12:12:18","guid":{"rendered":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/?p=9437"},"modified":"2026-10-18T13:14:14","modified_gmt":"2026-10-18T12:14:14","slug":"arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\/","title":{"rendered":"Arswydus, gwyrdd a\u2019r mwyafrif am ddim: hanner tymor yn amgueddfeydd Cymru"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Mae dros 60 amgueddfa ac oriel ar draws Cymru yn agor eu drysau yr hanner tymor Hydref hwn ar gyfer G\u0175yl Amgueddfeydd Cymru, a\u2019r mwyafrif yn rhad ac am ddim. Eleni, mae yna naws mwy gwyrdd i Galan Gaeaf hefyd.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Canhwyllau brwyn a gorymdaith llusernau ysbrydol ym mwthyn crydd. Draig gopr 20 troedfedd yn disgwyl yn mhen twnnel.&nbsp;&nbsp;Blychau ystlumod mewn hen bwll glo yn Y Rhondda.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Croeso i \u0174yl Amgueddfeydd Cymru, sy\u2019n rhedeg o&nbsp;<strong>ddydd Sadwrn 24 Hydref tan ddydd Sul 1 Tachwedd.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nawr yn ei 12fed flwyddyn, trefnir yr \u0175yl gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.&nbsp;&nbsp;Mae lleoliadau mewn trefi, pentrefi a dinasoedd ar draws Cymru yn cynnal digwyddiadau, gyda llawer ohonynt ar y thema Calan Gaeaf.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><a>Pam mae eich hymweliad yn bwysig<\/a><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae llawer o\u2019r lleoliadau sy\u2019n cymryd rhan yn rai bach, annibynnol sy\u2019n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr, fel Amgueddfa Porthcawl yn hen swyddfa\u2019r heddlu ar John Street. Maent yn cadw\u2019r stor\u00efau na ddewch chi ar eu traws mewn unrhyw gasgliad cenedlaethol: y ffotograffau, celfi, llythyrau ac eitemau pob dydd a roddwyd gan deuluoedd lleol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ac maent angen ymwelwyr. Yn \u00f4l Arolwg Sbotolau ar Amgueddfeydd Llywodraeth Cymru:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae mwy na hanner amgueddfeydd achrededig Cymru\u2019n croesawu llai na 10,000 o ymwelwyr y flwyddyn<\/li>\n\n\n\n<li>Mae 86% o\u2019r gweithlu mewn amgueddfeydd annibynnol yn wirfoddolwyr<\/li>\n\n\n\n<li>Dim ond 80% o\u2019r niferoedd ymwelwyr sy\u2019n ymweld ag amgueddfeydd annibynnol\u00a0\u00a0o gymharu \u00e2\u2019r lefelau cyn y pandemig.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pob taith drwy eu drysau yn helpu i gadw stor\u00efau yn fyw ar gyfer y genhedlaeth nesaf.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><a>Calan Gaeaf mwy gwyrdd<\/a><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Amcangyfrifir bod saith miliwn o wisgoedd Calan Gaeaf yn cael eu taflu i ffwrdd ym Mhrydain bob blwyddyn, yn \u00f4l yr elusen amgylcheddol Hubbub. Ychwanegwch gliter, propiau plastig ac addurniadau cynhyrchion untro ac mae\u2019n cronni\u2019n gyflym.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Felly eleni mae\u2019r \u0175yl yn annog pawb tuag at ddail yr hydref, hadau a deunyddiau naturiol. Mae\u2019r lleoliadau wedi dilyn yr arweiniad hwn: meddyliwch am ganhwyllau brwyn, blychau ystlumod, creaduriaid wedi\u2019u hailgylchu, llusernau helyg a lliwiau naturiol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Mae hefyd yn ffordd wych i deuluoedd i gymryd rhan yn eu diwylliant a\u2019u hunaniaeth lleol, am ychydig neu ddim cost.\u201d&nbsp;&nbsp;Heledd Fychan, Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Pedwar newid hawdd ar gyfer eich Calan Gaeaf eich hun<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Cr\u00ebwch, peidiwch \u00e2 phrynu.\u00a0<\/strong>Lapiwch hen ddefnydd i greu mymi, neu droi dillad du yn gath gwrach. Yn prynu? Ewch am eitemau ail-law a\u2019u pasio ymlaen wedyn.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Anghofiwch y gliter.\u00a0<\/strong>Mae\u2019n ddarnau bach, bach o blastig. Ar gyfer disgleirdeb, cymysgwch liw bwyd gyda thywod, halen y m\u00f4r neu siwgr.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Edrychwch i natur.<\/strong>\u00a0Mae dail sydd wedi syrthio, brigau, hadau a blodau wedi sychu yn gwneud addurniadau gwych.\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Bwytwch eich pwmpen.<\/strong>\u00a0Gwnewch gawl o\u2019r cnawd, a rhostio\u2019r hadau gyda menyn wedi toddi, sinamon, pinsiad o halen ac ychydig o siwgr.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><a>Naw dewisiad hanner tymor<\/a><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Mae darganfod eich hamgueddfa neu oriel leol yn ffordd hyfryd i dreulio amser gyda\u2019ch plant dros hanner tymor mis Hydref, yn enwedig os cawn ein hanner tymor glawog traddodiadol!&#8221; Carly Davies, Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r rhan fwyaf o leoliadau hefyd yn rhoi rhoddion yr \u0175yl yn rhad ac am ddim (llyfrynnau gweithgareddau, pensiliau a sticeri) tra mae stoc ar gael.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><a>Canolbarth a Gorllewin Cymru<\/a><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>AmserWedd, Rhaeadr<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cropiwch drwy dwnnel i mewn i Ogof Y Ddraig i gyfarfod y Frenhines Belrenin, draig gopr 20 troedfedd. Daw G\u0175yl Y Ddraig Rhaeadr \u00e2 chrefftau, llwybrau, dweud stor\u00efau, gwneud cymysgeddau hud a rasio dreigiau, a noson o adrodd stor\u00efau Oes Fictoria ar gyfer oedolion.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>24 a 27\u201331 Hydref \u00b7 Am ddim yn ystod wythnos yr \u0175yl<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Amgueddfeydd CofG\u00e2r, Sir G\u00e2r<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Teithiau ll\u00ean gwerin, drama iasol ac Ysgol Ddewiniaeth yn Amgueddfa Sir G\u00e2r, Abergwili. Yn Amgueddfa Parc Howard, Llanelli, bydd Adam yn yr Ardd yn dilyn pwmpen o\u2019r hadyn i\u2019r pl\u00e2t (30 Hydref).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>29\u201331 Hydref \u00b7 Manylion a thocynnau ar wefan CofG\u00e2r<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Defnyddiwch argraffu-sgrin ar hen grys-T du i\u2019w droi\u2019n wisg sgerbwd, adeiladwch dai cof o gardbord, neu ymunwch mewn penwythnos o weithdai creu llyfrau ar gyfer oedolion. A hyn i gyd ymhlith gwaith celf gan Monet, Gwen John a Barbara Hepworth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>27\u201328 a 31 Hydref \u00b7 \u00a33\u2013\u00a37.50 \u00b7 Mae angen bwcio<\/em><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><a>Gogledd Cymru<\/a><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Amgueddfa B\u00eal-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam, Wrecsam<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Amgueddfa ddiweddaraf Cymru, a agorwyd ar 25 Medi yn y ddinas ble sefydlwyd Cymdeithas B\u00eal-droed Cymru ym 1876. Gweithdai, teithiau a chrefftau ar gyfer cefnogwyr ifanc.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Hanner tymor, 10am\u20135pm \u00b7 Tocynnau am ddim, mae angen bwcio<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Amgueddfa Syr Henry Jones, Llangernyw, Conwy<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cr\u00ebwch ganhwyllau brwyn a llusernau, yna ymunwch mewn gorymdaith ysbrydol y cyfnos, ac wedyn rhannu cawl cymunedol. Peidiwch \u00e2 methu yr Ywen Llangernyw hynafol y drws nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>24 a 28 Hydref \u00b7 Am ddim \u00b7 Mae angen bwcio<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Oriel M\u00f4n, Llangefni, Ynys M\u00f4n<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cr\u00ebwch lusern helyg ddisglair, dyfeisiwch greaduriaid o ddeunyddiau wedi\u2019u hailgylchu a helpu i adeiladu Ysgol Arswyd. Anogir gwisgo i fyny.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>27 a 29\u201330 Hydref \u00b7 Llusernau \u00a35, sesiynau eraill am ddim \u00b7 Bwcio yn hanfodol<\/em><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><a>De Ddwyrain Cymru<\/a><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Amgueddfa Crochendy Nantgarw, ger Caerffili<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cr\u00ebwch greaduriaid potyn pinsio a mygydau o glai go iawn yn y ffatri crochenwaith 19fed ganrif olaf yn y Deyrnas Unedig. Oedran 11+ gydag oedolyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>29 a 31 Hydref \u00b7 Sesiynau clai am ddim, mae angen bwcio<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Amgueddfa ac Oriel Casnewydd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Crefftau Calan Gaeaf galw i mewn gyda\u2019r artist Lucilla Jones ar gyfer 3\u201310 oed. Yna, chwilota am y drysau tylwyth teg cudd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Dydd Mercher 28 Hydref \u00b7 Am ddim, dim angen bwcio<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Trehafod<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Adeiladwch flychau ystlumod ar gyfer yr ystlumod sydd nawr yn byw yn yr hen fwyngloddiau (27 Hydref). Gall y rhai mwy dewr gymryd rhan yn y Rhialtwch Calan Gaeaf yn y mwynglawdd tanddaearol segur (28\u201330 Hydref).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Blychau ystlumod am ddim, mae angen bwcio \u00b7 Rhialtwch o \u00a317.50 ar gyfer un oedolyn ac un plentyn<\/em><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cynlluniwch eich hanner tymor<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Pryd:<\/strong>\u00a0Dydd Sadwrn 24 Hydref i ddydd Sul 1 Tachwedd<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Ble:<\/strong>\u00a050+ amgueddfa ac oriel ar draws Cymru<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cost:<\/strong>\u00a0Mae llawer o ddigwyddiadau am ddim; mae angen bwcio ar gyfer rhai<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cofiwch:<\/strong>\u00a0Mae\u2019r dyddiadau a\u2019r amseroedd agor yn amrywio, felly gwiriwch gyda\u2019r lleoliad cyn teithio<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/museumsfestival.wales\/\"><strong>Gweler y rhaglen lawn yn museumsfestival.wales<\/strong><\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ychwanegir fwy o ddigwyddiadau drwy\u2019r amser. Dilynwch&nbsp;<strong>#WalesHistoryTrails<\/strong>&nbsp;a&nbsp;<strong>#LlwybrauHanesCymru<\/strong>&nbsp;am ddiweddariadau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae dros 60 amgueddfa ac oriel ar draws Cymru yn agor eu drysau yr hanner tymor Hydref hwn ar gyfer G\u0175yl Amgueddfeydd Cymru,<\/p>\n","protected":false},"author":282,"featured_media":9410,"comment_status":"open","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[253],"tags":[251,254,255],"class_list":["post-9437","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gwyl-amgueddfeydd-cymru","tag-digwyddiadau","tag-gwyl-amgueddfeydd-cymru","tag-hanner-tymor"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v28.7 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Arswydus, gwyrdd a\u2019r mwyafrif am ddim: hanner tymor yn amgueddfeydd Cymru - Museums Federation Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Arswydus, gwyrdd a\u2019r mwyafrif am ddim: hanner tymor yn amgueddfeydd Cymru - Museums Federation Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae dros 60 amgueddfa ac oriel ar draws Cymru yn agor eu drysau yr hanner tymor Hydref hwn ar gyfer G\u0175yl Amgueddfeydd Cymru,\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Museums Federation Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-10-18T12:12:18+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-10-18T12:14:14+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/museumsfederation.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/The-Mystery-of-the-Black-Cat-4-1-1024x1024.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1024\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1024\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Wyn Roberts\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Wyn Roberts\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Wyn Roberts\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/587d2c7b60f5c1c71f5efc57e4df2c6a\"},\"headline\":\"Arswydus, gwyrdd a\u2019r mwyafrif am ddim: hanner tymor yn amgueddfeydd Cymru\",\"datePublished\":\"2026-10-18T12:12:18+00:00\",\"dateModified\":\"2026-10-18T12:14:14+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\\\/\"},\"wordCount\":1060,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/10\\\/The-Mystery-of-the-Black-Cat-4-1.png\",\"keywords\":[\"Digwyddiadau\",\"G\u0175yl Amgueddfeydd Cymru\",\"Hanner Tymor\"],\"articleSection\":[\"G\u0175yl Amgueddfeydd Cymru\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\\\/\",\"name\":\"Arswydus, gwyrdd a\u2019r mwyafrif am ddim: hanner tymor yn amgueddfeydd Cymru - Museums Federation Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/10\\\/The-Mystery-of-the-Black-Cat-4-1.png\",\"datePublished\":\"2026-10-18T12:12:18+00:00\",\"dateModified\":\"2026-10-18T12:14:14+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/10\\\/The-Mystery-of-the-Black-Cat-4-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/10\\\/The-Mystery-of-the-Black-Cat-4-1.png\",\"width\":2000,\"height\":2000},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Arswydus, gwyrdd a\u2019r mwyafrif am ddim: hanner tymor yn amgueddfeydd Cymru\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Museums Federation Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/#organization\",\"name\":\"Museums Federation Cymru\",\"url\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2023\\\/06\\\/Feds_logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2023\\\/06\\\/Feds_logo.svg\",\"width\":66,\"height\":87,\"caption\":\"Museums Federation Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/587d2c7b60f5c1c71f5efc57e4df2c6a\",\"name\":\"Wyn Roberts\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/1e2dfa79889d7d8f7096d70db6f7ae27611a78a5662a117db55b25ff6b86fd87?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/1e2dfa79889d7d8f7096d70db6f7ae27611a78a5662a117db55b25ff6b86fd87?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/1e2dfa79889d7d8f7096d70db6f7ae27611a78a5662a117db55b25ff6b86fd87?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Wyn Roberts\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/museumsfederation.cymru\\\/cy\\\/author\\\/wyn-roberts\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Arswydus, gwyrdd a\u2019r mwyafrif am ddim: hanner tymor yn amgueddfeydd Cymru - Museums Federation Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Arswydus, gwyrdd a\u2019r mwyafrif am ddim: hanner tymor yn amgueddfeydd Cymru - Museums Federation Cymru","og_description":"Mae dros 60 amgueddfa ac oriel ar draws Cymru yn agor eu drysau yr hanner tymor Hydref hwn ar gyfer G\u0175yl Amgueddfeydd Cymru,","og_url":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\/","og_site_name":"Museums Federation Cymru","article_published_time":"2026-10-18T12:12:18+00:00","article_modified_time":"2026-10-18T12:14:14+00:00","og_image":[{"width":1024,"height":1024,"url":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/The-Mystery-of-the-Black-Cat-4-1-1024x1024.png","type":"image\/png"}],"author":"Wyn Roberts","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Wyn Roberts","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\/"},"author":{"name":"Wyn Roberts","@id":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/587d2c7b60f5c1c71f5efc57e4df2c6a"},"headline":"Arswydus, gwyrdd a\u2019r mwyafrif am ddim: hanner tymor yn amgueddfeydd Cymru","datePublished":"2026-10-18T12:12:18+00:00","dateModified":"2026-10-18T12:14:14+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\/"},"wordCount":1060,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/The-Mystery-of-the-Black-Cat-4-1.png","keywords":["Digwyddiadau","G\u0175yl Amgueddfeydd Cymru","Hanner Tymor"],"articleSection":["G\u0175yl Amgueddfeydd Cymru"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\/","url":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\/","name":"Arswydus, gwyrdd a\u2019r mwyafrif am ddim: hanner tymor yn amgueddfeydd Cymru - Museums Federation Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/The-Mystery-of-the-Black-Cat-4-1.png","datePublished":"2026-10-18T12:12:18+00:00","dateModified":"2026-10-18T12:14:14+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\/#primaryimage","url":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/The-Mystery-of-the-Black-Cat-4-1.png","contentUrl":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/The-Mystery-of-the-Black-Cat-4-1.png","width":2000,"height":2000},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/arswydus-gwyrdd-ar-mwyafrif-am-ddim-hanner-tymor-yn-amgueddfeydd-cymru\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Arswydus, gwyrdd a\u2019r mwyafrif am ddim: hanner tymor yn amgueddfeydd Cymru"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/","name":"Museums Federation Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/#organization","name":"Museums Federation Cymru","url":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Feds_logo.svg","contentUrl":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Feds_logo.svg","width":66,"height":87,"caption":"Museums Federation Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/587d2c7b60f5c1c71f5efc57e4df2c6a","name":"Wyn Roberts","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1e2dfa79889d7d8f7096d70db6f7ae27611a78a5662a117db55b25ff6b86fd87?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1e2dfa79889d7d8f7096d70db6f7ae27611a78a5662a117db55b25ff6b86fd87?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1e2dfa79889d7d8f7096d70db6f7ae27611a78a5662a117db55b25ff6b86fd87?s=96&d=mm&r=g","caption":"Wyn Roberts"},"url":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/author\/wyn-roberts\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9437","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/282"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9437"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9437\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9438,"href":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9437\/revisions\/9438"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9410"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9437"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9437"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/museumsfederation.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9437"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}