Cymru oedd y wlad gyntaf ym Mhrydain i gymeradwyo strategaeth ar gyfer amgueddfeydd, a hynny nôl yn 2010. Cynhyrchwyd y strategaeth gan CyMAL, mewn ymgynghoriad â’r sector, ac mae Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru wedi bod yn allweddol yn ei rhoi ar waith o’r cychwyn cyntaf. Rydym yn dal wrthi’n ddygn yn rhoi cymorth i amgueddfeydd gyflawni’r strategaeth.
Mae’r Ffederasiwn yn aelod o grŵp llywio Strategaeth Amgueddfeydd Cymru ac ar hyn o bryd mae’n allweddol wrth greu’r strategaeth newydd ar gyfer 2018 ymlaen.
- Lawrlwythwch Strategaeth Amgueddfeydd Cymru o wefan MALD
- Ewch i adran adnoddau’r Ffederasiwn i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r strategaeth gyda chysylltiadau a dogfennau a rennir gan y gymuned amgueddfeydd yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’r strategaeth yn datgan:
“Ein nod yw y bydd amgueddfeydd yng Nghymru erbyn 2015 wedi gwella eu gwasanaethau yn ôl tair egwyddor ganolog sy’n sylfaen gadarn i le amgueddfeydd ym mywyd Cymru.
Amgueddfeydd i Bawb
Bydd amgueddfeydd yn cyfrannu at gymunedau byw, gan hyrwyddo gwerthoedd cymdeithas deg a chyfiawn ac yn darparu cyfleoedd dysgu gydol oes i bawb.
Caseload i’r Genedl
Bydd amgueddfeydd yn dal casgliadau i’r genedl sy’n cynrychioli ein diwylliant cyfoethog ac amrywiol, gan ofalu amdanynt a pharhau i’w datblygu.
Gweithio’n Effeithiol
“Bydd amgueddfeydd yn rheoli eu safleoedd, gweithrediadau, casgliadau a phobl yn fwy effeithiol er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau i ddinasyddion sy’n berthnasol, yn gadarn ac yn gynaliadwy.”