Mae House of Memories newydd lansio yng Nghymru! Mewn partneriaeth gyda 14 o amgueddfeydd ledled Cymru, ac wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r rhaglen ddwyieithog yn cynnig ap House of Memories, hyfforddiant ymwybyddiaeth dementia i weithwyr proffesiynol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, a hefyd gweithdai ymwybyddiaeth dementia i deuluoedd, fydd yn y lleoliadau canlynol:
- Amgueddfa Abertawe – 25 (Saesneg) a 26 (Cymraeg) Hydref
- Amgueddfa Ceredigion- 9 (Saesneg) a 10 (Cymraeg) Tachwedd
- Canolfan Diwylliant Conwy – 24 (Saesneg) a 25 (Cymraeg) Tachwedd
Archebwch le ar gyfer yr hyfforddiant i weithwyr proffesiynol yma: https://www.liverpoolmuseums.org.uk/house-of-memories/cymru/training-health-and-social-care-professionals
Archebwch le ar gyfer y gweithdai teulu yma: https://www.liverpoolmuseums.org.uk/house-of-memories/cymru/family-and-friends-workshops
Lledaenwch y neges drwy eich rhwydweithiau. Os hoffech dderbyn pecyn marchnata sy’n cynnwys taflenni a phosteri ar gyfer eich gweithle neu gymuned, e-bostiwch grace.edwards@liverpoolmuseums.org.uk