Dydd Sadwrn 26 Hydref 2024 – 3 Tachwedd 2024
Bydd Gŵyl Amgueddfeydd Cymru 2024 yn dychwelyd y dydd Sadwrn sy’n dod, felly ydych chi’n barod am eich diwrnod allan i’r teulu? Rhwng dydd Sadwrn 26 Hydref a dydd Sul 3 Tachwedd, bydd amgueddfeydd ledled Cymru yn cynnal wythnos orlawn o weithgareddau hwyliog am ddim i bob oedran.

P’un a ydych chi’n frwd dros hanes, yn gefnogwr o draddodiadau Calan Gaeaf arswydus, neu’n chwilio am brofiad hanner tymor cofiadwy, mae gan yr ŵyl hon rywbeth at ddant pawb. Gyda’r cloc yn tician, ewch i wefan yr ŵyl i drefnuhLlwybr Hanes Cymru eich hun!
Ymhlith yr uchafbwyntiau yw Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru, lle gall ymwelwyr ifanc ymweld â jest un amgueddfa yn ystod hanner tymor i ennill gwobr, fel pecyn creu cuddfannau, neu chwe amgueddfa tan ddiwedd mis Ebrill 2025 i ennill gwobr, sef sgwter meicro newydd bon!
Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau rhyngweithiol a chyfeillgar i deuluoedd hefyd ar y gweill, gan gynnwys llwybrau ar thema Calan Gaeaf, gweithdai celf, sesiynau straeon, ail-greadau hanesyddol, a dathliadau diwylliannol. Bydd llawer o amgueddfeydd yn cynnig llyfryn Calan Gaeaf am ddim i ymwelwyr fynd adref â nhw, gan gynnwys chwedlau a thraddodiadau Cymreig, fel yr Hwch Ddu Gwta alanterni meipen.

Meddai’r Athro Jane Henderson, Aelod o Fwrdd Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru: “Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn enghraifft wych o berthnasedd ein treftadaeth fel ffocws ar gyfer hwyl i’r teulu, dysgu gydol oes a lles cymdeithasol. Mae’r Llywodraeth wedi buddsoddi yn amgueddfeydd Cymru a’u cymunedau ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i’n hwythnos gyffrous o ddigwyddiadau ac ymhell i’r dyfodol.”
Eleni mae 46 o amgueddfeydd o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan
Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn cael ei hariannu’n hael gan Lywodraeth Cymru a’i threfnu gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, y prif gorff eiriolaeth ar gyfer amgueddfeydd Cymru.
Am yr holl fanylion, ewch i: https://gwylamgueddfeydd.cymru/
#LlwybrauHanesCymru
#WalesHistoryTrails