Amdanom Ni

Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru yw’r corff strategol ar gyfer amgueddfeydd ac orielau celf yng Nghymru. Mae’r elusen yn cynorthwyo ac yn eiriol dros y safonau uchaf o ddarpariaeth amgueddfeydd ar hyd a lled Cymru, i bobl Cymru.

Rydym yn eiriol dros ein haelodau i’r rhanddeiliaid, cyllidwyr, a’r Llywodraeth.

  • Mae amgueddfeydd yn grymuso pobl drwy ddysgu, cyfranogi ac ysbrydoli.
  • Mae amgueddfeydd a’u casgliadau yn cryfhau hunaniaeth a lles cymunedol.
  • Mae amgueddfeydd yn gwneud cyfraniad economaidd sylweddol drwy dwristiaeth ac adfywio.

  • Hyrwyddo’r safonau proffesiynol uchaf o waith a gwasanaeth cyhoeddus mewn amgueddfeydd ac orielau celf yng Nghymru.
  • Hyrwyddo addysg a hyfforddiant y rhai sy’n gweithio mewn amgueddfeydd ac orielau celf yng Nghymru a’r rhai sy’n eu cefnogi
  • Hybu addysg i’r cyhoedd drwy hyrwyddo a chynnal gwasanaethau dysgu gydol oes o ansawdd uchel mewn amgueddfeydd ac orielau celf

Mae’r ymddiriedolwyr yn darparu’r dulliau cymorth canlynol i’w haelodau:

      • Adnoddau i alluogi arfer gorau
      • Cydlynu rhaglenni hyfforddiant
      • Darparu cylchlythyr i’r aelodau
      • Darparu grantiau bach ar gyfer: Gwella gwaith sy’n gweithio tuag at y Cynllun Achredu Amgueddfeydd (safonau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol); Hwyluso hyfforddiant i’r aelodau; Cynorthwyo’r aelodau i fynychu cynadleddau
      • Cynnal partneriaethau allweddol gydag ystod o gyrff
      • Anelu at gychwyn prosiectau a dod yn bartneriaid mewn prosiectau presennol sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo Strategaeth Amgueddfeydd Cymru

  • Llywodraeth Cymru
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Cymdeithas yr Amgueddfeydd
  • Cymdeithas y Prif Lyfrgellwyr
  • Casgliad y Werin Cymru
  • Amgueddfa Cymru
  • Cyngor Celfyddydau Lloegr
  • Bwrdd Casgliadau mewn Perygl y DU
  • Y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Cymdeithas yr Amgueddfeydd
  • Annibynnol
  • Cymdeithas y Prif Lyfrgellwyr
  • Cronfa Dreftadaeth y Loteri
  • Genedlaethol
  • Kids in Museums
  • Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru
  • ICOM – Cyngor Rhyngwladol yr
  • Amgueddfeydd
  • Menter Ysgolion y Dreftadaeth
  • Gymreig
  • CADW
  • Grŵp ar gyfer Addysg mewn
  • Amgueddfeydd
  • Croeso Cymru

Gŵyl Amgueddfeydd Cymru

Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn ŵyl flynyddol a gynhelir gan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru.

Mae’r ŵyl yn ôl fis Hydref hwn, ac mae’n fwy nag erioed, gyda phythefnos gyfan o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig i bob oed mewn amgueddfeydd ar hyd a lled Cymru, llawer ohonynt AM DDIM. Mae’r Ŵyl eleni yn rhedeg o ddydd Sadwrn 22 Hydref tan ddydd Sul 6 Tachwedd, fel y gall ein hamgueddfeydd groesawu teuluoedd o Gymru ac ymwelwyr o’r tu hwnt i’r ffin dros eu gwyliau hanner tymor am hanner tymor hanesyddol go iawn a digon o rialtwch Calan Gaeaf yn ogystal!